Y Cyfarfod Llawn

 

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 12 Mehefin 2013

 

 

Amser y cyfarfod:
13:30

 

 

 

 

Pleidleisiau a Thrafodion

(138)

 

<AI1>

1    Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd y 12 cwestiwn cyntaf. Tynnwyd cwestiynau 2 a 7 yn ôl.

</AI1>

<AI2>

2    Cwestiynau i’r Gweinidog Tai ac Adfywio

Dechreuodd yr eitem am 14.15

Gofynnwyd y 14 cwestiwn cyntaf. Ni ofynnwyd cwestiwn 15.

</AI2>

<AI3>

3    Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Dechreuodd yr eitem am 14.58

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Tynnwyd gwelliant 2 yn ôl yn unol â Rheol Sefydlog 12.27 ar ddechrau’r Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5264 William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod y Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser wedi bod yn weithredol am flwyddyn.

2. Yn gresynu nad yw'r amseroedd aros targed o ran atgyfeirio i driniaeth ar gyfer cleifion canser sy'n cael diagnosis drwy’r llwybr achosion brys yr amheuir bod canser arnynt wedi eu cyrraedd ers 2008.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i'w gwneud yn ofynnol bod Byrddau Iechyd Lleol yn cyhoeddi eu cynlluniau cyflawni ar gyfer canser a'u hadroddiadau blynyddol ar eu gwefannau i sicrhau bod y cyhoedd yn gallu craffu ar eu cynlluniau.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru a Byrddau Iechyd Lleol i sicrhau bod gwasanaethau canser yn amserol, yn canolbwyntio ar yr unigolyn a bod anghenion clinigol ac anghenion ehangach pobl, gan gynnwys cael gafael ar gyngor a chymorth ariannol, yn cael eu diwallu.

5. Yn annog Llywodraeth Cymru i ddarparu diweddariadau blynyddol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar gynnydd o ran gweithredu'r Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

49

0

5

54

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

</AI3>

<AI4>

4    Dadl Plaid Cymru

Dechreuodd yr eitem am 15.56

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5263 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn ailddatgan ei gefnogaeth i drafnidiaeth gyhoeddus integredig.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i gyflawni'r ymrwymiadau yn y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol, ac i gefnogi gweithredu cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol ledled y wlad.

3. Yn cefnogi datblygu systemau trafnidiaeth integredig ledled Cymru, gan gynnwys ‘system Metro’ i dde-ddwyrain Cymru.

4. Yn croesawu camau gweithredu Llywodraeth Cymru ar Faes Awyr Caerdydd, ac yn galw am ddatblygu a chyhoeddi strategaeth hedfan i Gymru.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi creu awdurdod trafnidiaeth cenedlaethol i Gymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

9

0

45

54

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ym mhwynt 2, dileu popeth ar ôl ‘Lywodraeth Cymru i’ a rhoi yn ei le ‘gyflawni’r ymrwymiadau yn y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol, i gefnogi’r broses o weithredu cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol ledled y wlad, ac i sicrhau cysylltiadau effeithiol â meysydd datblygu economaidd eraill, gan gynnwys Ardaloedd Menter a Dinas-ranbarthau’.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

45

0

9

54

Derbyniwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnwys ar ddiwedd pwynt 2:

‘, gan gydnabod y pwysau ar y gyllideb sydd ar gael’

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

49

0

5

54

Derbyniwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn cydnabod pwysigrwydd cynlluniau trafnidiaeth cymunedol, yn enwedig i bobl hŷn a phobl anabl a’r rheini sy’n byw mewn ardaloedd gwledig, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu cyllidebau tair blynedd ar gyfer cynlluniau trafnidiaeth cymunedol er mwyn sicrhau bod cyllid ar gael i weithredwyr trafnidiaeth cymunedol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

26

0

28

54

Gwrthodwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ym mhwynt 3, dileu ‘, gan gynnwys ‘system Metro’ i dde-ddwyrain Cymru’ a rhoi yn ei le ‘ac yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i’r cynllun gwerth £1 biliwn i drydaneiddio prif reilffordd Great Western, ac i’r cynllun gwerth £350 miliwn i drydaneiddio Cledrau’r Cymoedd, a fydd yn braenaru’r tir ar gyfer ‘system Metro’ i dde-ddwyrain Cymru’

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

17

0

37

54

Gwrthodwyd gwelliant 4.

Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ym mhwynt 3, ar ôl ‘gan gynnwys’ cynnwys ‘ystyried potensial’.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

12

0

42

54

Gwrthodwyd gwelliant 5.

Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 4 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn cefnogi trydaneiddio prif reilffordd Gogledd Cymru, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i egluro a yw Manceinion yn rhan o’r achos strategol ac yn cael ei chynnwys yn ystyriaethau'r Tasglu ynghylch yr achos busnes dros drydaneiddio.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

17

0

37

54

Gwrthodwyd gwelliant 6.

Gwelliant 7 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:

Yn cydnabod y cynigion a amlinellwyd yn nogfen ‘Glasbrint ar gyfer Maes Awyr Caerdydd’ y Ceidwadwyr Cymreig, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno strategaeth hedfan gynhwysfawr i Gymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

12

0

42

54

Gwrthodwyd gwelliant 7.

Gwelliant 8 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ym mhwynt 4, dileu ‘croesawu’ a rhoi ‘nodi’ yn ei le.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

17

0

37

54

Gwrthodwyd gwelliant 8.

Gwelliant 9 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 5 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn gresynu wrth y penderfyniad i ddirwyn i ben y llwybr bws X91 sy’n gwasanaethu Maes Awyr Caerdydd ar ddydd Sul, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno llwybr uniongyrchol o ansawdd uchel rhwng canol dinas Caerdydd a Maes Awyr Caerdydd.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 9:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

45

0

9

54

Derbyniwyd gwelliant 9.

Gwelliant 10 - Lesley Griffiths (Wrecsam)

Dileu pwynt 5.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 10:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

33

0

21

54

Derbyniwyd gwelliant 10.

Gan fod gwelliant 10 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliannau 11 a 12 eu dad-ddethol.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5263 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn ailddatgan ei gefnogaeth i drafnidiaeth gyhoeddus integredig.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflawni’r ymrwymiadau yn y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol, i gefnogi’r broses o weithredu cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol ledled y wlad, ac i sicrhau cysylltiadau effeithiol â meysydd datblygu economaidd eraill, gan gynnwys Ardaloedd Menter a Dinas-ranbarthau, gan gydnabod y pwysau ar y gyllideb sydd ar gael.

3. Yn cefnogi datblygu systemau trafnidiaeth integredig ledled Cymru, gan gynnwys ‘system Metro’ i dde-ddwyrain Cymru.

4. Yn croesawu camau gweithredu Llywodraeth Cymru ar Faes Awyr Caerdydd, ac yn galw am ddatblygu a chyhoeddi strategaeth hedfan i Gymru.

5. Yn gresynu wrth y penderfyniad i ddirwyn i ben y llwybr bws X91 sy’n gwasanaethu Maes Awyr Caerdydd ar ddydd Sul, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno llwybr uniongyrchol o ansawdd uchel rhwng canol dinas Caerdydd a Maes Awyr Caerdydd.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

48

5

0

53

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

</AI4>

<AI5>

5    Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Dechreuodd yr eitem am 16.54

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5265 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod y manteision y mae prentisiaethau yn eu cynnig i gyflogwyr drwy ddarparu gweithlu ymrwymedig, effeithlon, medrus a llawn cymhelliant ac yn nodi bod yr unigolyn cyffredin sy'n cwblhau prentisiaeth yn cynyddu cynhyrchiant busnes £214 yr wythnos.

2. Yn cydnabod y manteision y mae prentisiaethau yn eu cynnig i bobl ifanc ddatblygu eu sgiliau, ennill cymwysterau cydnabyddedig, ennill cyflog uwch a sicrhau cyfleoedd swyddi mwy sefydlog, oherwydd bod llawer o gyflogwyr yn dibynnu ar brentisiaethau i ddarparu'r gweithwyr medrus sydd eu hangen arnynt ar gyfer y dyfodol.

3. Yn gresynu bod nifer y bobl ar leoliadau prentisiaeth yng Nghymru wedi lleihau mwy na 25% rhwng 2006/7 a 2010/11.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ehangu mynediad i brentisiaethau drwy:

a) datblygu rhaglen cyswllt ag ysgolion i gynyddu amlygrwydd prentisiaethau o ran darparu cyngor gyrfaol i bobl ifanc;

b) sefydlu cynllun Llysgenhadon Prentisiaeth i hyrwyddo modelau rôl cadarnhaol;

c) gwella gwelededd cystadlaethau i ddathlu rhagoriaeth mewn sgiliau;

d) treialu proses fel un UCAS o wneud cais unigol a system glirio i wella cydraddoldeb ymagwedd rhwng llwybrau gyrfa; ac

e) creu un system ar gyfer gwybodaeth, gwneud cais a chymorth i symleiddio'r broses o ddarparu gwybodaeth a lleihau cyfraddau gadael ac ymddieithrio.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

5

0

49

54

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)

Dileu pwyntiau 3 a 4 a rhoi yn eu lle:

Yn croesawu’r cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru i fuddsoddi £40 miliwn o gyllid ychwanegol tuag at brentisiaethau dros y ddwy flynedd nesaf, gan greu tua 5,650 o gyfleoedd prentisiaeth ychwanegol a 2,650 o gyfleoedd prentisiaethau lefel uwch, gan gynnwys ehangu'r ddarpariaeth ar gyfer prentisiaethau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

38

0

16

54

Derbyniwyd gwelliant 1.

Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod y gall fod angen cymorth ar brentisiaid ifanc ar ddiwedd eu hyfforddiant i barhau mewn gwaith, yn ogystal ag i ddeall rheoliadau a chontractau cyflogaeth.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

54

0

0

54

Derbyniwyd gwelliant 3.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5265 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod y manteision y mae prentisiaethau yn eu cynnig i gyflogwyr drwy ddarparu gweithlu ymrwymedig, effeithlon, medrus a llawn cymhelliant ac yn nodi bod yr unigolyn cyffredin sy'n cwblhau prentisiaeth yn cynyddu cynhyrchiant busnes £214 yr wythnos.

2. Yn cydnabod y manteision y mae prentisiaethau yn eu cynnig i bobl ifanc ddatblygu eu sgiliau, ennill cymwysterau cydnabyddedig, ennill cyflog uwch a sicrhau cyfleoedd swyddi mwy sefydlog, oherwydd bod llawer o gyflogwyr yn dibynnu ar brentisiaethau i ddarparu'r gweithwyr medrus sydd eu hangen arnynt ar gyfer y dyfodol.

3. Yn croesawu’r cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru i fuddsoddi £40 miliwn o gyllid ychwanegol tuag at brentisiaethau dros y ddwy flynedd nesaf, gan greu tua 5,650 o gyfleoedd prentisiaeth ychwanegol a 2,650 o gyfleoedd prentisiaethau lefel uwch, gan gynnwys ehangu'r ddarpariaeth ar gyfer prentisiaethau drwy gyfrwng y Gymraeg.

4. Yn cydnabod y gall fod angen cymorth ar brentisiaid ifanc ar ddiwedd eu hyfforddiant i barhau mewn gwaith, yn ogystal ag i ddeall rheoliadau a chontractau cyflogaeth.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

37

5

12

54

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

</AI5>

<AI6>

Cyfnod Pleidleisio

Dechreuodd yr eitem am 17.55

</AI6>

<AI7>

</AI7>

<AI8>

6    Dadl Fer

Dechreuodd yr eitem am 18.00

NDM5266 Leanne Wood (Canol De Cymru): GIG sy'n addas i bawb – tuag at ddewis arall yn lle canoli.

</AI8>

<TRAILER_SECTION>

Daeth y cyfarfod i ben am 18:26

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mawrth, 18 Mehefin 2013

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

 

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</ TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</ COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>